EnglishWelsh

Digwyddiad Lansio: Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiwn Cymdeithasol (NFfSP) yng Nghymru

 

Yn dilyn ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i ddatblygu Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiwn Cymdeithasol yng Nghymru, mae’n bleser gennym eich gwahodd i ddigwyddiad lansio ar-lein.

 

Cynhelir y digwyddiad rhithiol a drefnwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ysgol Ymchwil Presgripsiwn Cymdeithasol Cymru, Prifysgol De Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol, a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ddydd Iau 7ed Rhagfyr 2023, 10:00 – 13:00.

 

Bydd y digwyddiad hwn yn:

·        Cyflwyno’r Fframwaith Cenedlaethol newydd ar gyfer Presgripsiwn Cymdeithasol yng Nghymru

·        Rhannu datblygiadau ym maes presgripsiwn cymdeithasol fel rhan o’r Fframwaith Cenedlaethol gan gynnwys, Geirfa Termau ar gyfer Presgripsiwn Cymdeithasol a Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer Ymarferwyr Presgripsiwn Cymdeithasol yng Nghymru

·        Gosod y camau nesaf ar gyfer y Fframwaith Cenedlaethol

·        Rhannu profiadau o bresgripsiwn cymdeithasol ledled Cymru

·        Clywed sut mae presgripsiwn cymdeithasol wedi cael ei weithredu yn fyd-eang a gwrando ar farn panel rhyngwladol o arbenigwyr ar y Fframwaith Cenedlaethol.

 

Clicwch ar y ddolen isod i gofrestru – dylai hyn gymryd llai na 30 eiliad!

 

Dolen gofrestru –  Digwyddiad presgripsiynu cymdeithasol | Social Prescribing Event Tickets, Thu 7 Dec 2023 at 10:00 | Eventbrite

 

Rhannwch y gwahoddiad hwn ag unrhyw gydweithwyr y teimlwch y gallai fod ganddynt ddiddordeb mewn mynychu’r digwyddiad hwn.

Skip to content