EnglishWelsh

Grŵp Ffocws Gofalwyr Di-dâl Cyngor Caerdydd

 

 

Gwahoddiad Grŵp Ffocws

 

Ydych chi’n gofalu am berthynas neu ffrind drwy eu helpu gyda’u gweithgareddau a’u hanghenion bob dydd?

Hoffem gael eich barn am y ffordd y gall Cyngor Caerdydd eich cynorthwyo.

Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio gyda’r elusen  Gofalwyr Cymru i adolygu ac ail-lunio’r cymorth sy’n cael ei gynnig i ofalwyr di-dâl. Gofalwyr di-dâl yw’r rhai sy’n rhoi cymorth a gofal di-dâl i un neu fwy o bobl am eu bod yn sâl; ag anabledd; eu bod yn agored i niwed; â chyflwr iechyd meddwl; eu bod yn gaeth i rywbeth; neu’n hŷn.

Hoffem roi trosolwg o’r hyfforddiant a’r cymorth sydd eisoes ar gael a gwahodd gofalwyr di-dâl i rannu adborth ar yr hyn a ddarperir a beth arall fyddai’n ddefnyddiol.  Rydym yn cynnal y grwpiau ffocws canlynol ar yr hyfforddiant a’r cymorth fyddai’n helpu gofalwyr i reoli eu rôl ofalu o ddydd i ddydd:

  • 18 Medi 2023 10:00-12:00 yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd
  • 19 Medi 2023 10:00-12:00 ar-lein drwy Teams

Rydym yn awyddus i glywed eich barn ar:

  • Ein hyfforddiant a’n cymorth presennol
  • Pa hyfforddiant neu gymorth fyddai o gymorth i ofalwyr, e.e. codi a chario, cymorth cyntaf?
  • Sut hoffech chi i ni rannu gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddi?
  • Sut ddylai hyfforddiant a chymorth gael eu darparu? Ar-lein, yn bersonol?
  • A fyddai cymorth ar gyfer lles emosiynol ac iechyd meddwl yn ddefnyddiol?
  • A fyddai cyfleoedd i gwrdd â gofalwyr eraill o fudd?

I archebu eich lle yn y grwpiau ffocws hyn, defnyddiwch y ddolen EventBrite hon: https://www.eventbrite.co.uk/e/700191490597?aff=oddtdtcreator

Os na allwch ddod i’r digwyddiad, byddem yn dal i fod wrth ein bodd yn clywed eich adborth, e-bostiwch ni yn [email protected]

 

 

Skip to content